

Sawl tro rydym wedi cael gwybod y dylen ni droi delweddau Jonah yn gardiau cyfarch, a nawr, o’r diwedd, rydym wedi gwneud hynny gyda lansiad pedwar cerdyn.
Y delweddau a ddewiswyd ar gyfer y set hon o gardiau yw: dau fanylyn o’r ffenestr fawr yn y capel yng Ngholeg Ratcliffe; y baldacchino yn Eglwys Sant Padrig, Casnewydd; a’r dyfrlliw Tri Dyn ar Fryn yn y Gaeaf.
Mae’r cardiau yn mesur 148 x 105 cm a, heb unrhyw neges fewnol, maent yn addas ar gyfer y Nadolig neu ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Maent yn dod ag amlenni hunanlynol ac yn costio £9 yn ein siop (https://sceneandword.org/cy/product/pecyn-4-cerdyn-jonah-jones/), gan gynnwys costau cludo (yn y DU yn unig).
Bydd yr elw o werthiant y cardiau yn cyfrannu at Wobr Jonah Jones i artistiaid ifanc.
