Ailgartrefu ffenestri dalle de verre gan Jonah Jones yn Eglwys Dewi Sant, yr Wyddgrug

22 Mehefin 2022

Y pedair ffenestr gyntaf i’w gosod yn Eglwys Dewi Sant, yr Wyddgrug. Ffotograffau gan Mike Bunting.

Mae prosiect sydd wedi cymryd chwe mlynedd i achub, adfer ac ail-leoli set o 12 ffenestr eglwys fawr gan Jonah Jones ar fin dod i ben yn llwyddiannus.

Creodd Jonah y ffenestri yn 1966 ar gyfer yr eglwys Gatholig ym Morfa Nefyn, ym Mhen Llŷn. Defnyddiodd Jonah dechneg a oedd ar y pryd yn arbrofol a elwid dalle de verre (sy’n golygu ‘slab o wydr’), wedi’i gynnal gan fatrics resin yn hytrach na’r plwm traddodiadol sy’n gysylltiedig â gwydr lliw. Fe wnaeth hefyd creu mosaig mawr ar gyfer yr eglwys, a gaewyd i’w dymchwel yn 2016, gan greu’r bygythiad y buasai’r corff mawr o waith celf pwysig yn cael ei golli.

Diolch byth, fe wnaeth penderfyniad dychmygus gan Esgobaeth Gatholig Wrecsam i ail-leoli’r ffenestri a’r mosaig eu hachub rhag yr un dynged â gweddill yr adeilad. Bydd eu cartref yn y dyfodol tua 60 milltir i’r gogledd-dwyrain yn Eglwys Dewi Sant, yr Wyddgrug.

Y mosaig a gafodd ei symud cyntaf, a’i adfer a’i gludo i ysgol newydd yn y Rhyl (am fwy am hyn, gweler y ddolen ‘Atgyfodiad’ isod). Tynnwyd y ffenestri allan gan dîm o Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) Coleg Celf Abertawe, is-gontractwr Scene & Word, a fu’n gweithio gydag Alun Adams o Scene & Word, cyn drefnydd y CGP ac arbenigwr mewn adfer gwydr pensaernïol.

Dros y tair blynedd ddilynol cafodd y 12 ffenestr – pob un yn cynnwys dau banel dalle de verre gyda ffenestr fach gwydr lliw traddodiadol uwchben – eu hadfer yn ofalus gan Owen Luetchford a Stacey Poultney, arbenigwyr gwydr technegol y CGP. Fe wnaethon nhw drwsio namau strwythurol yn y matricsau resin, a achoswyd gan hanner ganrif o dywydd arfordirol Cymreig ynghyd â phwysau anferthol pob panel, gan dynnu allan pob dalle oedd wedi torri a rhoi un newydd yn ei le.

Yn gynharach yn 2022 danfonwyd y set gyntaf o ffenestri wedi’u hadfer i’r Wyddgrug. Ers hynny mae pedwar ohonyn nhw wedi’u gosod o amgylch yr eglwys mewn fframiau dur di-staen a gynhyrchwyd gan Dee Tech Services o Benarlâg, dan gyfarwyddyd rheolwr y prosiect Mike Bunting. Dilynodd ail set o ffenestri a bydd y set olaf yn cael ei chyflenwi gan y CGP dechrau mis Gorffennaf. Bydd yn cynnwys un panel a dorrodd yn llwyr tra roedd y ffenestr yn cael ei thynnu o Morfa Nefyn, sy’n cael ei hailadeiladu o’r newydd i gyd-fynd yn union â’r panel gwreiddiol. Bydd fframio a gosod yr holl ffenestri sy’n weddill yn parhau dros y misoedd nesaf.

Ymweliad Scene & Word â’r CGP

I nodi diwedd llwyddiannus cyfnod adfer y prosiect cadwraeth mawr hwn, ymwelodd tri o gyfarwyddwyr Scene & Word â’r CGP ar 21 Mehefin 2022 i weld gweddill y gwaith ac adolygu’r technegau niferus a ddefnyddiwyd yn ystod y gwaith adfer. Cawsant cwrs carlam mewn torri a thrin gwydr pensaernïol, gosod cyfansawdd gludio ar ran o’r matrics resin, a gosod dalle yn ei le yn y gofod cyfatebol a grëwyd ar ei gyfer yn y matrics.

Mae’r holl brosesau hyn, rhai ohonynt sydd wedi bod yn arloesol gan dorri tir newydd, wedi’u cofnodi a’u dogfennu wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Yn y pen draw, cânt eu casglu ynghyd a byddant ar gael gan y CGP i’w hastudio yn y dyfodol ac i’w defnyddio mewn unrhyw brosiectau adfer tebyg.

Mae’r pâr cyntaf o ffotograffau yn dangos:

  • Archwilio dalle newydd, a grëwyd i gymryd lle un a ddifrodwyd yn angheuol
  • Archwilio’r darnau dalle a baratowyd ar gyfer panel sy’n cael ei ail-greu o’r dechrau

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r set nesaf o ffotograffau yn dangos, o’r chwith i’r dde:

  • Rhychu gwydr gyda thorrwr gwydr
  • Torri’r rhych trwy law
  • Dalle yn cael ei osod yn sych i sicrhau ffit dda yn y matrics
  • Dau ffotograff o gyfansawdd gludio yn cael ei roi ar ymylon bwlch ar gyfer y dalle yn y matrics
  • Y dalle yn cael ei osod yn y gofod parod yn y matrics

Edrychwch am adroddiadau pellach yma wrth i’r prosiect nodedig hwn fynd rhagddo i’w gwblhau.

Pob ffotograff yn y CGP gan Owen Luetchford.