Rydym yn falch iawn o ddatgan lansiad Oriel Jonah Jones, prosiect tymor hir gyda’r bwriad o gatalogio ac arddangos holl waith mwyaf adnabyddus Jonah mewn safle arlein diffiniol. Bu’r cynllun pwysig hwn ymysg amcanion Scene & Word ers dros fwy na degawd, felly mae dechrau ei roi ar waith yn gam mawr ymlaen.
Mae’n cyd-fynd â lansiad gwefan newydd sbon Scene & Word.
Nid oedd y wefan wreiddiol, a lansiwyd bron i ddeng mlynedd yn ôl, bellach yn cefnogi’r dyfeisiau symudol diweddaraf. Dylai ein gwefan newydd wneud hynny i gyd a bod ar gael ar unrhyw ddyfais sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd.
Mae lansiad ein gwefan newydd hefyd wedi creu’r cyfle i gyflwyno Siop Jonah Jones newydd, lle bydd detholiad cynyddol o lyfrau, printiau o luniau ddyfrlliw ac arysgrifau gan Jonah, a chynhyrchion eraill ar gael am brisiau fforddiadwy. Fe fydd pob gwerthiant yn ddi-elw a bydd yn helpu i noddi amcanion a chynlluniau Scene & Word.
Hefyd, mae nod hirdymor arall yn dechrau o’r diwedd. Bydd ein gwefan yn dod yn gwbl ddwyieithog Cymraeg/Saesneg.
Datblygiad pwysig arall yn y cyfryngau yw lansiad tudalen Instagram newydd, sy’n ategu ein tudalen Facebook.
