Traethodau wedi eu casglu: THE GALLIPOLI DIARY

£7.50

Casgliad o ysgrifau ac atgofion gan Jonah Jones.

14 in stock

Description

Jonah Jones – Seren, 1989

Casgliad o ysgrifau ac atgofion gan Jonah Jones yw The Gallipoli Diary. Adlewyrcha’r ysgrifau ei fywyd o ddechreuadau diymhongar, ei wasanaeth fel parafeddyg yn y rhyfel, a’i fywyd newydd wedyn fel arlunydd, dan fygythiad ar y cychwyn gan y diciâu difrifol. Maent hefyd yn dangos ei gredo artistig: ei ymlyniad wrth y gweithdy yn hytrach na’r stiwdio, ffynonellau clasurol a hynafol ei waith, a dylanwadau cyfoes megis Mann, Klee, Brancusi, Noguchi a David Jones.

Yma hefyd ceir bortreadau o gyfeillion a chymdogion Jonah Jones yng Ngogledd Cymru: Bertrand Russell, Clough Williams-Ellis, John Cowper Powys, Huw Wheldon, Richard Hughes; ac un o Jacob, y ffigwr Beiblaidd a oedd bron yn obsesiwn i’r arlunydd. Mewn traethawd-llythyr at ei olygydd, edrycha Jonah Jones ar darddiad ei nofelau, Zorn ac A Tree May Fall. Mewn traethodau eraill mae’n trafod ei frwydr dros hunaniaeth Gymreig, ac yn cymharu rhyfel ei dad â’i brofiadau ef ei hun yn y rhyfel ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach.

Trwy’r traethodau a’r cyfnodolion hyn dengys Jonah Jones inni sut brofiad oedd byw fel arlunydd a dyn yn yr ugeinfed ganrif.

Mae Seren yn garedig iawn wedi trosglwyddo gweddill eu stoc o’r llyfr i Scene & Word.

148 tudalen. ISBN 1-85411-010-1. Pris yn cynnwys cludiant yn y DU.