Disgrifiad
Jonah Jones – dyfrlliw, 1982
Ym 1981–82 gwasanaethodd Jonah Jones fel cymrod am flwyddyn yn Neuadd Gregynog, canolfan astudio breswyl Prifysgol Cymru ger y Drenewydd, Powys. Ei fwriad oedd treulio’r amser yn datblygu ei baentio dyfrlliw, cyfrwng yr oedd wedi’i ddefnyddio’n ysbeidiol ers blynyddoedd lawer. Y canlyniad oedd corff sylweddol o waith ac mae Gwrogaeth i Miss M.N. o Kew yn enghraifft drawiadol ohono. Mae’n deyrnged i’r botanegydd ac artist Fictoraidd Marianne North. Y mae ei chofnodion manwl o blanhigion a thirweddau egsotig ledled y byd yn llenwi oriel yng Ngerddi Kew.
Wedi’i argraffu gyda lithograffeg heb sgrin ac wedi’i rifo’n unigol o set argraffiad cyfyngedig o 100. Ar gael mewn tri opsiwn:
- mewn mownt cerdyn, 66 cm x 81 cm
- heb fownt, 54 cm x 66 cm
- pris gostyngol, heb fownt, 54 cm x 66 cm, melynu bach o amgylch yr ymyl (anweladwy os rhoddir mewn mownt cerdyn) – un copi ar gael
Mae’r prisiau yn cynnwys TAW a chludiant yn y DU.





