Description
Oriel Plas Glyn-y-Weddw, 2019
Roedd arddangosfa canmlwyddiant yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli yn 2019 yn dathlu Jonah Jones fel cerflunydd, llythrennwr, gwneuthurwr gwydr a pheintiwr dyfrlliw, gan gyflwyno enghreifftiau o’i waith trwy ei yrfa hir o’r 1940au i’r 2000au cynnar. Cyhoeddodd yr oriel gatalog darluniadol gwych gydag 80 tudalen, yn gosod yr arddangosion mewn trefn gronolegol fwy neu lai. Ysgrifennwyd y testun gan Pedr Jones, awdur y bywgraffiad Jonah Jones: An Artist’s Life, a lluniwyd y cynllun dwyieithog clir a chynnil gan Olwen Fowler.
Ciplun hyfryd o fywyd a gwaith Jonah, gyda 95 o ddelweddau lliw-llawn.
ISBN 978-0-9928178-8-6. Pris yn cynnwys cludiant yn y DU.