
Cliciwch neu dapiwch lun isod i ddechrau gweld yr arddangosfeydd.
Ym 1962–63 cyflawnodd Jonah Jones set sylweddol o gomisiynau ar gyfer y crypt a’r capeli terfynol bychain yng Ngholeg Ampleforth, Gogledd Swydd Efrog. Roedd hyn yn cynnwys nifer o ffenestri lliw a dalle de verre. Er eu bod i gyd ar raddfa eitha fechan, maent yn dangos defnydd cain o liw a llinell.
Cafodd Jonah amser hyfryd wrth weithio yn Ampleforth, er iddo gael ei ddal yno am sbel yn ystod gaeaf garwgaeaf caled y flwyddyn honno. Daeth yn ffrindiau mawr gyda’r mynachod Benedictaidd, yn enwedig y prifathro, y Tad Basil Hume, a gafodd ei benodi’n archesgob San Steffan nes ymlaen.
Gwnaeth hefyd Madonna a’r Plentyn mawr a Safleoedd y Groes a dorwyd ar lechen ar gyfer Coleg Ampleforth.


