Cyfryngau eraill

Oriel Jonah Jones logo

Roedd Jonah wrth ei fodd yn arbrofi gyda’i gelf, gan roi cynnig ar sgiliau a chyfryngau newydd. Dangosir hyn yn ei dorlun leino Susannah yn Ymdrochi a’i ddefnydd o gludwaith yn y tirlun haniaethol Cwm Bychan. Er ei fod fel arfer yn gwneud ei holl waith celf ei hun, un maes lle roedd angen mewnbwn eraill ar ei ddyluniadau oedd gwaith metel. Y canlyniad oedd rhai baldacchinos (canopïau allor) rhyfeddol mewn eglwysi Catholig a ffurfiau metel eraill. Cafodd ei fedal gelf o Dylan Thomas ei chastio o gerfwedd clai wedi’i fodelu.