

Medal coffa Dylan Thomas, wedi’i fwrw mewn efydd oddi wrth gerfwedd clai, 1985. Casgliad preifat. Ffotograffiau: Robert Greetham.
Ym 1985 gwahoddwyd Jonah gan ei ffrind Ron Dutton o Goleg Polytechnig Wolverhampton, un o sylfaenwyr y Gymdeithas Medal Gelf Prydain, i ystyried thema am fedal. Y canlyniad oedd medal 12.7 cm mewn diamedr gyda phroffil o Dylan Thomas. Fe’i cynhyrchwyd mewn rhif o 37 a gwerthwyd y cwbl.
