
Mae darn arall o waith celf “anghofiedig” gan Jonah wedi dod i’r amlwg ar ôl i’w berchennog gysylltu â ni trwy ddolen ‘Gwaith coll’ yn Oriel Jonah Jones.
Hysbysodd Nik Murphy am ddelwedd yn cynnwys sawl fraslun o syniadau ar gyfer cerflun. Wedi’i wneud mewn dyfrlliw ac inc du, mae’r dyddiad 1966 arni gyda’r teitl ‘Brasluniau ar gyfer cerflun’. Mae’n bron yn sicr mai’r syniadau cyntaf ar gyfer y gweithiau Ymddiddan ac Y Bont yw rhain, dau ddarn mewn carreg Hornton a gerfiwyd oddeutu 1967. Daw’r label ar gefn y llun o Oriel Tegfryn, Porthaethwy – bu Jonah yn arddangos yno yn y 1960au hwyr a’r 1970au cynnar.
Rydym yn ddiolchgar i Nik am gysylltu â ni ac am ddarparu ffotograff uchod. Cliciwch yma am olygfa fwy o’r gwaith.
