Printiau pen ac inc newydd gan Jonah Jones

Rydym wedi lansio casgliad newydd o saith darlun pen ac inc fforddiadwy gan Jonah Jones. Maent wedi’u dewis o argraffiad gwreiddiol ei deithlyfr clasurol i gerddwyr, The Lakes of North Wales (Wildwood House, 1983), a ddarluniodd gyda’i ffotograffau a’i luniadau ei hun.

Isod: Llyn y Parc (chwith) a’r argae wrth Bwlch y Moch (dde)

Mae’r rhifyn cyntaf hwnnw wedi bod allan o brint ers amser maith. Am ryw reswm rhyfedd, dewisodd cyhoeddwyr rhifynnau diweddarach y teithlyfr i hepgor darluniau Jonah. Roedden ni’n meddwl eu bod nhw’n llawer rhy gryf i gael diflannu fel yna ac rydyn ni wedi dod â nhw’n ôl yn fyw gyda detholiad o saith llun o lynnoedd, mynyddoedd a thirweddau.

Isod: clogfeini rhewlifol, Llyn Idwal (chwith) a Llyn y Foel, Moel Siabod (dde)

Wedi’u hargraffu ar gerdyn celf A4 a maent yn fargen, yn costio dim ond £7 yr un gan gynnwys TAW a chludiant. Gellir eu prynu mewn unrhyw nifer y dymunwch. Am bob print ychwanegol a archebwch byddwn yn tynnu 2.5% ychwanegol: er enghraifft, byddai saith print yn costio dim ond £41.65 i chi yn lle £49.

Isod: Rhaeadr Ogwen (chwith) a Craig Cwm Silin (dde)

I archebu eich print(iau), ewch i Siop Jonah Jones.

Isod: Cwm Dulyn