Yn dilyn llwyddiant set o gardiau cyfarch gyda darluniau gan Jonah Jones yn 2022, rydym wedi lansio set newydd o chwe cherdyn cyfarch ar gyfer 2024.

Uchod: mae dau o’r cardiau newydd yn luniau dyfrlliw o Gastell y Gwynt ar gopa’r Glyder Fach, Eryri, a Melin Ynyspandy ger Cwmystradllyn.
Mae gan y set newydd thema aeafol ac mae’n cynnwys pum llun dyfrlliw ac un llun pen ac inc. Maen nhw i gyd yn ddelweddau o berfeddwlad Gogledd Cymru Jonah, gan gynnwys rhai o’i frasluniau nodweddiadol tra allan ar ei deithiau cerdded dyddiol, fel arfer yng nghwmni ei gorfilgi.

Uchod: edrych lawr ar Lyn Cau a Chader Idris, a golygfa o eira ger Castell Deudraeth ar stad Portmeirion.
Fel y set gyntaf, mae’r cardiau yn mesur 148 cm x 105 cms ac yn dod gyda chwe amlen hunanlynol. Maent yn costio £14.50 gan gynnwys TAW a chludiant.

Uchod: Llyn y Foel islaw Moel Siabod, a chopa Tryfan dan eira.
I archebu’ch cardiau, ewch i Siop Scene & Word.
