Dyfarnwyd Gwobr Jonah Jones ar gyfer artistiaid ifanc yn 2024 i Beca Fflur, gemydd/crefftwr, mewn ffurf noddi Beca i gynnal cyfres o weithdai yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, yn seiliedig ar waith gwydr lliw a llythrennu Jonah.
Dyma enghreifftiau o waith Beca Fflur:
Yng ngweithdai Beca Fflur i oedolion, defnyddiwyd ‘Alphabetum Romanum Jonah’ gan Scene & Word fel ysbrydoliaeth…
… tra yn ei gweithdai i blant y ffynhonnell oedd gwydr lliw Jonah.
Rhwng ei sesiynau gweithdy prysur yn Y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod bu Scene & Word yn sgwrsio gyda Beca am ei gwaith a’r hyn sy’n ei hysbrydoli. Wrth iddi esbonio beth oedd yn ei denu hi at waith llythrennu a gwydr lliw Jonah, dywedodd Beca mai’r gwaith llythrennu dyfrlliw yr oedd yn ei hoffi yn arbennig iawn, sut y gallai gael y fath gymeriad a chrefft mewn peth mor syml â llythyren, a hefyd ei bod yn gweld lliwiau bywiog gwydr lliw yn hudolus, hyd yn oed pan oedd hi’n blentyn bach.
Mae fideo’r sgwrs yma.