2 Mai 2023
Ymwelodd Peter Jones, aelod o Fwrdd Scene & Word, ag Eglwys Gatholig Ein Harglwyddes y Dyrchafiad yn Blackpool yn ddiweddar. Mae cerflun gwych Jonah o’r Forwyn yn sefyll ar ffasâd dwyreiniol yr eglwys, ac yn edrych mewn cyflwr da. Wedi’i gerfio o garreg Portland, mae’r darn tua 6 troedfedd (tua 2 fedr) o uchder. Yn anarferol yng ngwaith Jonah, mae pâr o geriwbiaid wrth draed y Forwyn. Agorwyd yr eglwys, a gynlluniwyd gan E. Bower Norris, y bu Jonah yn cydweithio ag ef ar sawl prosiect yn ystod y 1960au, ym 1961; yn ôl pob tebyg gwnaed y cerflun yn y cyfnod 1961–67, gan ei bod yn bosib ei fod wedi’i gomisynu ar gyfer yr agoriad, neu rai flynyddoedd yn hwyrach, fel y digwyddodd weithiau mewn mannau eraill.
Ffotograffiau: Maggie Smales