Ar ôl i ffenestri dalle de verre gan Jonah Jones gael eu hadfer a’u gosod yn Eglwys Gatholig Dewi Sant yn yr Wyddgrug, mae nifer o erthyglau wedi’u darlledu ar sianeli newyddion yng Nghymru a’u postio ar lwyfannau newyddion ar-lein.
Ar 17 Rhagfyr 2022, postiodd Nation.Cymru erthygl, ‘Art experts give new life to stunning church windows’: https://nation.cymru/culture/art-experts-give-new-life-to-stunning-church-windows/
Ar 6 Ionawr 2023 darlledodd Radio Cymru gyfweliad gyda Pedr Jones ar ‘Post Prynhawn’. Pwyswch y botwm chwarae ar waelod y clip sain 4 munud: https://www.dropbox.com/scl/fi/0jdwgqw6l4mw5bwfkg8cn/Radio-Cymru-PTJ-interview_Feb2023.m4a?rlkey=197ozr5z1k1xa6v1fd5dq9k9t&st=58re7eae&dl=0
Ar 20 Ionawr 2023 bu gohebydd Newyddion ITV Cymru, Rob Shelley, yn cyfweld â Mike Bunting, y rheolwr prosiect ar gyfer gosod y ffenestri yn Eglwys Dewi Sant, yn ogystal ag aelod o gynulleidfa’r eglwys. Recordiad camera yw’r clip fideo (1.58 munud), ond mae ansawdd y sain a’r fideo yn digon da: https://youtu.be/9eIUX_R9Sdk
Ac ar 16 Chwefror 2023 bu Matthew Richards o BBC Wales Today yn adrodd ar y ffenestri, gan ymgorffori lluniau archif prin o Jonah yn cael ei gyfweld amdanynt ym 1966. Cyfrannodd Peter Jones fanylion technegol diddorol am ba mor arloesol oedd y ffenestri pan gawsant eu gwneud yn wreiddiol, a siaradodd hefyd peiriannydd wedi ymddeol Mike Bunting am y cyfarpar a’r broses a ddyfeisiodd i godi’r paneli trwm mewn lle yn Eglwys Dewi Sant: https://youtu.be/ocZI3ce6BTc
Mae adroddiad Matthew Richards, o’r enw ‘Gwynedd: Saved stained glass windows placed at church’, hefyd i’w ddarllen ar sianel Newyddion BBC Cymru: https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-64639974
