3 Mawrth 2022
Ail-leolwyd y grog fawr a gerfiwyd yng nghanol y 1960au gan Jonah Jones o’r hen ganolfan encil Jesiwitaidd yn Loyola Hall, Rainhill ar Lannau Merswy yn 2012 i gapel newydd Ysgol St Joseph yn Hurst Green, Swydd Gaerhirfryn. Mae erthygl a gyhoeddwyd ar y pryd ar stpetersstonyhurst.org.uk newydd ddod i’r golwg, gyda’r ffotograff yma. Dengys y grog fawr wedi’i hail-osod, gyda dwy ffenestr wydr lliw newydd ar bob ochr gan Sarah Galloway a gomisynwyd i’r capel.