15 Mawrth 2022
Ar 5ed Medi 1947 yn Haiffa, priododd Jonah Jones â Judith Grossman, merch Iddewon o ddinas Odesa yn Wcráin. Cafodd hithau ei geni yn Dnipro, yng nghanol Wcráin. Yn fuan wedi’r enedigaeth ffôdd y teulu er mwyn dianc o’r rhyfel cartref yn Ymerodraeth Rwsia ar ôl iddi gwympo – hynny yw, wrth i Judith ddechrau mewn bywyd ’roedd hi’n ffoadures fel cymaint o Wcraniaid heddiw. Yn y pendraw ymsefydlodd y teulu ym Mhalesteina, lle gwrddodd Jonah a Judith.
Rwsieg (y brif iaith yn Odesa) oedd iaith gyntaf y teulu Grossman, ac roeddent yn ystyried eu hunain fel Iddewon yn gyntaf a Rwsiaid yn ail. Nid oedd Wcráin yn bodoli fel endid gwleidyddol cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ’roedd ei gwladwriaeth fyrhoedlog ar ôl y rhyfel wedi colli’r rhan fwyaf o’i thiriogaeth erbyn i Judith gael ei geni. Beth bynnag y bo ymdeimlad hunaniaeth y teulu, profasant dryblith rhyfel tebyg i’r hyn mae pobl Wcráin yn dioddef nawr. Yn union fel mae teuluoedd yn cael eu rhwygo gan frwydro ac alltudiaeth, cafodd Judith a llawer o’i pherthnasau eu gwasgaru ar draws y byd, heb ddod at ei gilydd byth wedyn. Collodd rhai o’r teulu a oedd wedi aros yn Wcráin eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd. Erbyn y 1990au Vera Yakovna Spivak, merch Roza Grossman – modryb Judith – oedd yr unig berthynas clos i Judith ar ôl yn y wlad. Bu Vera (athrawes gerddoriaeth a bardd) fyw o 1909 tan 2005.
Fel arfer nid yw Scene & Word Cyf wrth ei natur yn ymnwneud â materion gwleidyddol. Pa fodd bynnag, nid oes celf heb fywyd, ac mae’n amhosib anwybyddu’r ymosodiad creulon ar fywydau Wcraniaid cyffredin sy wedi achosi cymaint o angau a distryw yn barod. Bu rhaid gwagio amgueddfeydd celf ac orielau o’u cynnwys er mwyn diogelu treftadaeth weledol y wlad; gwelsom adroddiadau am amgueddfeydd yn cael eu taro gan ymosodiadau Rwsiaidd a achosodd golled celfweithiau amhrisiadwy. Mae’n ymddangos yn briodol i ni goffáu’r trychineb enfawr yma gyda cherdd gan fenyw o Wcráin sy’n gysylltiedig â Jonah trwy briodas – geiriau a adlewyrcha brofiad cymaint o Wcraniaid o’r ganrif olaf a’n hoes ni.
Vera Yakovna Spivak
Ganwyd Vera Yakovna Spivak – unig ferch modryb Judith Grossman, Roza – yn Odesa ym 1909. ’Roedd hi ddeg mlynedd yn hŷn na’i chyfnither y cyfarfu â hi unwaith yn unig, pan aeth rhieni Judith â’u baban bach i Odesa i ffarwelio â’r teulu cyn gadael y wlad yn anghyfreithlon yn wyneb chwyldro a thryblith.
Cafodd Vera a’i rhieni eu symud yn orfodol i Tashkent yn ystod yr Ail Ryfel Byd (mae’n debyg i’w thad gweithio ym Mholitechnig Kyiv), ac mae’n debyg eu bod wedi cael eu symud yn ôl yr un mor orfodol ym 1945, gan ddarganfod bod rhai aelodau o’u teulu Iddewig wedi cael eu llofruddio yn Odesa yn ystod y rhyfel.
Di-deitl yw’r gerdd hon, a ysgrifennwyd yn Rwsieg ym 1945. (Oherwydd cyfyngiadau teipograffig WordPress, rydym wedi defnyddio / i wahanu llinelli pob adnod.)
Gormod o ffarwelio, / Gormod o edeifion a dynnwyd yn grybibion / I fedru gwadu’r argraff mai ofer fu’r dyddiau da. / Sawl hedyn o ymdeimlad / A fethodd ddod i’r fei ar ithfaen oer / yr ymwahanu, er eu dyfrio â dagrau di-ri.
Mi gofiwn pob gwanwyn a fu, / Ysgytwad cariad ar egino, / Cyfeillgarwch ar flodeuo, / Peraroglau hud ein byw.
I ble’r aethant? Dim ond gwynt main / Tir angof a chwyth o amgylch eu hysgyrion. / Wele hydref yr ymwahanu, / Meddai hi, yn ddidrugaredd, “Siachmat”.
Sawl cyfarfod nas cynhaliwyd erioed / Sawl cân nas cenid / Sawl gair, sawl cusan / A rewodd ar ein gwefusau.
Cyllell fawr y ffarwelio / Ddienyddiodd y gair olaf o gyfarch / A’i daflu ar ben / Y lludw sathredig ar ochr y ffordd.
Sawl gwaith a anafwn / Ein bysedd ar y muriau oer. / Sawl gwaith a frwydrwn yn ofer / Yn erbyn y cadwynau grymus hyn.
Gormod o ffarwelio / A bywyd fel petai’n ddim ond twyll.
Gormod o ffarwelio / Gormod o freuddwydion na chafwyd eu gwireddu.
(Cyfieithiad o’r gerdd gan Emlyn Williams)