‘Gwaith coll’ arall gan Jonah Jones wedi dod i’r golwg

3 Chwefror 2022

Mae darn arall o waith celf “anghofiedig” gan Jonah wedi dod i’r amlwg ar ôl i’w berchennog gysylltu â ni trwy ddolen ‘Hysbyswch ni am waith coll’ yn Oriel Jonah Jones.

Yn ôl y perchennog, sydd wedi dewis aros yn anhysbys, prynwyd y cerflun gan ei dad-yng-nghyfraith yn y 1970au. Mae’n debyg iawn i Les Petites Soeurs, a wnaethpwyd ym 1973 neu 1974, ac a ellir ei wylio yma. Hwyrach mae’r darn “newydd”, sy’n mesuro 30 cm x 60.5 cm x 20 cm, yn fersiwn cynharach o’r un syniad a wnaethpwyd ym 1972-73; os felly gallwn ei enwi Les Petites Soeurs I a’r gwaith a recordiwyd eisoes Les Petites Soeurs II. Fodd bynnag, mae’n bosib y gwnaethpwyd y darnau y ffordd arall mewn amser.