Ym mis Gorffennaf 2019 cwblhawyd y broses o drosglwyddo mosaig mawr Jonah Jones, Crist y Prynwr Sanctaidd, o’i safle gwreiddiol mewn eglwys ym Morfa Nefyn i’w gartref newydd, Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl.

Ffotograffau gan Michael Rieveley
Dywedodd Michael Rieveley, cyfarwyddwr cwmni Rieveley Ceramics a gyflawnodd yr holl brosiect ar gyfer Esgobaeth Gatholig Wrecsam: “Wnes i ymgynghori â chydweithwyr a gwneud ymchwil eang, ond methais ddod o hyd i unrhyw gofnod bod unrhywun wedi cyflawni rhywbeth o’r fath o’r blaen.”
Mae’r hanes o sut cododd y cynllun, a llwyddiant Rieveley Ceramics wrth ei gwblhau, yn arbennig o ddiddorol. Mae e hefyd yn esiampl werthfawr o’r broses hynod gymhleth o adfer ac ail-leoli celfwaith cyhoeddus o ganol yr 20fed ganrif, hanner ganrif yn ddiweddarach.
Gellir darllen hanes Michael Rieveley, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar wefan y Sefydliad Cadwraeth (Institute of Conservation, Icon), ar y ddolen yma (efallai y bydd angen i glicio ar y botwm ‘Open’ ar y chwith uchaf): https://1drv.ms/b/c/da5e7911af69b96a/EbTlPmYKNd9Gjb3p_GUHE6sBX_0Jl8IW2ird8VcOALsSew?e=rTWuIS
