23 Tachwedd 2020
Clywsom gyda thristwch bod yr hanesydd ac awdur Jan Morris wedi marw yn 94 ar ddiwedd bywyd hir, anturus ac eofn. Roedd Jan a’i gwraig Elizabeth yn gymdogion a ffrindiau i Jonah a Judith, a degawdau cynt, yn ôl ei hewyllys, cerfiodd Jonah garreg fedd (gyda’r geiriau “Here are two friends … at the end of one life”) fel paratoad at yr amser pan caent eu claddu ger eu cartref yn Llanystumdwy. Yn 2006 siaradodd Jan Morris yn huawdl a gwefreiddiol ar achlysur dadorchuddiad cofeb ym Mhortmeirion i goffhau gwaith creadigol Jonah o gwmpas y pentre. Nes ymlaen cyfrannodd Jan ragair perffaith cynnil i’r bywgraffiad gan Peter Jones, Jonah Jones: an Artist’s Life (2011), a oedd yn grynhoad union o hanfod Jonah.