Lansiad tudalen we ‘Go Fund Me’ i adfer ffenestri Jonah Jones mewn eglwys yn Yr Wyddgrug

14 Ionawr 2021

Mae Eglwys Gatholig Dewi Sant yn Yr Wyddgrug, sy’n rhan o Ymddiriedolaeth Esgobaeth Wrecsam, wedi lansio apêl ‘Go Fund Me’ i adnewyddu deuddeg ffenestr dalle de verre. Fe’u crëwyd yn wreiddiol gan Jonah Jones ym 1966 ar gyfer eglwys Gatholig ym Morfa Nefyn, a gaewyd yn 2016.

Symudwyd y ffenestri yn 2019 gan arbenigwyr o Ganolfan Gwydr Pensaerniol (CGP) yng Ngholeg Celf Abertawe (rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant). Y CGP sy’n cyflawni’r gwaith trwsio ac adfer hefyd. Ar ôl cwblhau’r broses bydd y ffenestri yn cael eu cludo i’r Wyddgrug a’u gosod yn eu cartref newydd. Bydd y ffenestri’n cael eu gosod dros gyfnod o fisoedd i gyfateb â’r arian sydd ar gael.

Dolenni defnyddiol:
Tudalen apêl: https://www.gofundme.com/f/jonah-jones-stained-glass-windows-repair
Adroddiad ym mhapur dyddiol The Leader: https://www.leaderlive.co.uk/news/19004651.mold-church-appeals-help-restoring-magnificent-stained-glass-windows/
Lluniau yn Oriel Jonah Jones: Yr Wyddgrug