23 Tachwedd 2020
Mae Scene & Word wedi dod o hyd i beth allai fod yr unig ffotograff sy’n bodoli o arddangosfa o waith Jonah Jones a gymerodd le yn ei weithdy ar un adeg yn Neuadd y Farchnad, Tremadog ym 1968 neu 1969. Ni adawodd Jonah unrhyw gofnod o’r arddangosfa, ond mae’n bosib mai fath o arolwg o’i gerflunwaith dros wyth mlynedd yn Nhremadog, a adawodd tua mis Medi 1968, oedd hwn. Dyma gyfnod mwyaf gynhyrchiol ei yrfa, diolch i gyfres o gomisiynau mawr ar gyfer eglwysi a gyflawnodd yn y 1960au, a nifer a safon ei gerfluniau fel eu gilydd. Yn y ffotograff hwn dangosir y cerfluniau a ganlyn (o’r chwith i’r dde): Marchog Gwyn (1968), Nike (1968), Lein (c.1963-67), Brenhines y Mynydd (1965) a Lasarus (1968). Yn y cefndir gwelir brasluniau gan Jonah ar a wal, ac ar y silff uwchben saif cerfluniau llai a phenddelw Syr Clough Williams-Ellis (1968), sydd nawr yn Neuadd Ercwlff, Portmeirion.