3 Awst 2020
Ar 8 Gorffennaf cafodd fywgraffydd Jonah, Peter Jones, ei gyfweld ar raglen Radio Cymru ‘Dros Ginio’. Fe drafodwyd llwybr Jonah at ddod yn arlunydd; ei brofiad yn ystod y rhyfel, gan gynnwys ymuno â 224 Parachute Field Ambulance fel meddyg di-arfog, gwasanaeth yng ngogledd-orllewin Ewrop, a chymryd rhan mewn rhyddhau Belsen; yna ei amser ym Mhalesteina; ei waith gyda John Petts; ei berthynas waith gyda Clough Williams-Ellis; a lleoliad ei waith celf cyhoeddus, yn enwedig yng Nghymru.