3 Awst 2020
Yn ddiweddar, defnyddiodd Cymro o’r Gogledd, Mike Lewis, sydd nawr yn byw yn Banbury, Swydd Rhydychen, y nodwedd ‘Hysbyswch ni am Waith Coll’ ar Oriel Jonah Jones i ddod â cherflunwaith bach gan Jonah i’n sylw. Mae’n fersiwn bychan, tua 20 cm o uchder, o Yr Ymdrochwyr, a oedd yn enghraifft glasurol o’i waith cynnar mewn maen cerfiedig. Nid yw’r fersiwn mwy yn bodoli bellach ac mae’n debyg iddo gael ei ddinistrio, felly mae hyn yn ddarganfyddiad sydd i’w groesawu.
Mae gan waith diweddarach mwy, Chwaraewyr Deisiau, o 1955 ddau ffigur mewn ystumiau tebyg iawn ond yn chwarae deisiau yn hytrach na chnoi cil ar ôl nofio’n noeth.
Prynwyd y fersiwn bach hwn mewn carreg Hornton gan Gyngor Celfyddydau Prydain Fawr yn 1953.