Cyfeiriad at Jonah Jones mewn postiad i nodi Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

3 Mehefin 2020

I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol ar 15 Mai eleni, cyhoeddwyd postiad gwestai gan y bardd Tony Curtis, Athro Barddoniaeth Emeritws ym Mhrifysgol De Cymru, ar flog cwmni Seren Books.

Yn ei bostiad bu’r Athro Curtis yn myfyrio ar wrthwynebwyr cydwybodol nodedig yn y celfyddydau a llen yng Nghymru, yn enwedig yn ystod y ddau ryfel byd. Yn eu plith bu’r arlunwyr John Elwyn, Arthur Giardelli a Jonah Jones a’r awduron a’r beirdd D. Gwenallt Jones, Roland Mathias, Waldo Williams ac Emyr Humphries.

Dyma’r darn sy’n ymwneud â Jonah:

‘Yn ystod degawd olaf ei fywyd deuthum yn gyfeillgar â’r awdur ac artist Jonah Jones (1919–2004), y dethlir ei fywyd hynod yn llyfrau Seren Jonah Jones: An Artist’s Life a Dear Mona: Letters from a Conscientious Objector (golygwyd gan ei fab Peter Jones). Wedi’i gyfareddu gan ddarluniau John Petts gyda cherddi gan Dylan Thomas yng nghylchgrawn Wales, dilynodd Jonah ei gyd-wrthwynebwr cydwybodol i’r fyddin fel meddyg di-arfog yn y Gatrawd Barasiwtwyr. Fe ddisgrifiodd y cyffro a’r braw o barasiwtio: “…when I jump, once I’m in the slipstream, I just ride it like a witch riding her broom.” Ar ôl parasiwtio dros Ewrop oresgynedig i gefnogi cyrch y Cynghreiriaid, cyrhaeddodd Jonah wersyll-garchar Belsen. Wedi gweld yr erchyllterau yno fe ddywedodd fod ei wrthwynebiad yn gyfeiliornus.’

Mae clawr Dear Mona yn un o bedwar darlun a gynhwysir yn y postiad.

Gellir darllen y postiad cyflawn ar https://www.serenbooks.com/node/1313