PAENTIADAU DYFRLLIW

Oriel Jonah Jones logo
Llun dyfrlliw gan Jonah Jones

Er bod Jonah yn cael ei gysylltu yn bennaf â cherfluniaeth a llythrennu, y cyfrwng y bu’n gweithio hiraf ynddo oedd dyfrlliw. Fel gŵr ifanc ar ddechrau’r 1940au a oedd yn ymdrechu i wireddu ei alwedigaeth yn y celfyddydau, dysgodd am dechnegau paentio gyda Fred Lawson, gwneuthurwr golygfeydd uchel ei barch o ddyffrynoedd (Dales) Swydd Efrog.

Llun dyfrlliw gan Jonah Jones

Tirweddau dyfrlliw, felly, oedd gweithiau celf cynharaf Jonah, ac roedd yn gyfrwng y dychwelodd ato dro ar ôl tro trwy gydol ei yrfa. Yn ei henaint, pan oedd crydcymalau wedi ei orfodi i roi’r gorau i gerflunio, cafodd fynegiant i’w greadigrwydd mewn paentio, hyd at ei fisoedd olaf.