Paentiadau dyfrlliw eraill

Oriel Jonah Jones logo

Yn ystod ei breswyl yng Ngregynog, aeth Jonah ati i fraslunio a phaentio mewnluniau ymhlith pynciau eraill. Pan arddangosodd 50 o’i ddyfrlliwiau diweddar tua diwedd y cyfnod hwn, roedd yn ystyried y mewnluniau fel y mwyaf llwyddiannus, “a new departure for me,” fel y sylwodd. Defnyddiodd dyfrlliw hefyd mewn brasluniau ar gyfer syniadau cerfluniol wrth iddo’u datblygu.