
Cliciwch neu dapiwch unrhyw lyn isod i ddechrau gweld yr arddangosfeydd.




Dysgodd Jonah y crefft o wneud mosaigau yn y 1960au, pan gyflawnodd gyfres o gomisiynau ar gyfer eglwysi Catholig. Roedd y broses yn cynnwys llunio’r dyluniad y tu ôl ymlaen ar bapur trwchus; cafodd y teils gwydr neu tesserae eu gludo i’w lle ar hwn mewn adrannau. Yna pasiwyd pob adran drosodd gyda sment teils gwyn a’i lynu’n sownd yn ei le ar y wal. Pan oedd popeth yn hollol sych, fe wnaeth Jonah wlychu’r papur gyda dŵr a’i blicio i ffwrdd. Y cam olaf oedd growtio rhwng y tesserae unigol dros bob adran, yna sychu oddi ar y teils gan adael y growt rhwng pob un.
Ar wahân i’w fosaigau mewn eglwysi, gwnaeth Jonah gyfryw ddarnau ar gyfer safleoedd dinesig hefyd. Comisiynwyd ei fosaigau mwyaf nodedig ar gyfer eglwysi yng Nghasnewydd a Morfa Nefyn (sydd bellach mewn ysgol yn y Rhyl) ac ar gyfer Allt y Castell, Dinbych-y-pysgod.
