Mosaig: Amgueddfa Dinbych-y-pysgod

Y Môr, y Môr, murlun mosaig, Amgueddfa Dinbych-y-pysgod, tesserae gwydr, llechen a phaent, 1991. Casgliad: Cyngor Sir Benfro.

Enillodd Jonah gystadleuaeth yn erbyn pum artist arall am furlun ar Allt y Castell y tu allan i Amgueddfa Dinbych-y-pysgod. Mosaig oedd ei ddyluniad gydag arysgrifau llechi ar wal yn wynebu’r môr, 10 metr o hyd a 3 metr o uchder. Ei fan cychwyn oedd set o benillion am y môr yn Saesneg, Cymraeg, Lladin a Groeg, a dorrodd ei gydweithiwr Michael Watts mewn llechen.

Wrth iddo weithio ar y mosaig, disgrifiodd Jonah y cynllun yn ei newyddiadur:

These inscriptions, nine in all, form the basic design, or dictate it, in the sense that the wall will be divided into nine vertical panels, each with an inscription, and with a general linking background of sea, its ripple and wave pattern and drift. The only bit of ‘realism’ will be a portrait of Castle Hill and its ruined fortress. Central to it all with be the boldest inscription of them all, ‘The Sea is His, and He made it’ from the Book of Common Prayer.

Manylyn.

Manylyn.

Cartŵn, gyda thestun ar y cefn: ‘1st Rough for Tenby Museum Mosaic Mural, 33′ x 10′, with inscriptions on Welsh Slate. Jonah Jones 1991’.