Maen coffa Lloyd George, Abaty San Steffan

Maen coffa David Lloyd George, llechen werdd Penrhyn, Abaty San Steffan, Llundain, 1970. Ffotograff: William Jones.

Dyluniwyd un o arysgrifau mwyaf mawreddog Jonah, cofeb Lloyd George yn Abaty San Steffan, gan Syr Clough Williams-Ellis. Fe’i dadorchuddiwyd gan Dywysog Cymru ym 1970 “ym mhresenoldeb tri Prif Weinidog – Meistri Macmillan, Wilson a Heath, gyda Jeremy Thorpe yn cynrychioli’r Blaid Ryddfrydol [Liberal Party] gan gynnig anerchiad huawdl a theimladwy,” cofnododd Syr Clough yn ei hunangofiant Architect Errant.