Gwydr: Eglwys Dewi Sant, Yr Wyddgrug

Oriel Jonah Jones logo

Ym 1966 creodd Jonah 12 ffenestr dalle de verre ar gyfer Eglwys Atgyfodiad Ein Gwaredwr ym Morfa Nefyn ar Benrhyn Llŷn. Roedd y ffenestri o gwmpas yr eglwys (petryal syml yn ei hanfod gyda muriau wedi’u gwyngalchu) yn sefyll bron o’r llawr i’r nenfwd ac roeddent yn drawiadol yn eu defnydd haniaethol o liw cysefin. Fodd bynnag, caewyd yr eglwys yn 2016 ac mae wedi cael ei dymchwel ers hynny.

Yn ffodus dangosodd Esgobaeth Wrecsam ddychymyg wrth dynnu’r ffenestri o Forfa Nefyn a’u hadleoli i’w cartref newydd yn Eglwys Dewi Sant, Yr Wyddgrug. Hon oedd yr unig eglwys Gatholig yng Ngogledd Cymru a oedd yn ddigon mawr i dderbyn yr holl ffenestri. Ar ôl iddynt gael eu hadnewyddu’n llwyr gan y Ganolfan Gwydr Pensaernïol yng Ngholeg Celf Abertawe, gan gynnwys ailadeiladu un panel a oedd wedi methu, gosodwyd y ffenestri yn Eglwys Dewi Sant – wyth o flaen ffenestri plaen, a phedair mewn blychau golau wedi’u hongian ar y waliau. Cysegrwyd y ffenestri gan Esgob Wrecsam, Peter Brignall, ar 4 Mehefin 2023.

Am hanes llawn y prosiect cyfan, gweler adroddiad yma. Defnyddiwch y tagiau ‘Eglwys Dewi Sant Yr Wyddgrug’ a ‘Morfa Nefyn’ o dan yr erthygl i ddilyn holl hanes y prosiect pwysig hwn.