Gwydr: Eglwys Sant John Fisher, West Heath, Birmingham

Oriel Jonah Jones logo

Uchod: golygfa gyfansawdd o’r pedair ffenestr dalle de verre fel grŵp. Fe’u lleolir mewn gwirionedd ym mhedwar pedrant yr eglwys groesffurf.

Bu Jonah Jones yn gweithio ar gyfer Eglwys Sant John Fisher yn West Heath, Birmingham, oddeutu 1963–64. Roedd y celfwaith yn cynnwys ffenestri lliw bychain a phedair ffenestr dalle de verre yn dangos yr Arglwydd fel y Bugail Da, Athro, Brenin a Gwaredwr. Mae rhain yn arbennig o odidog, gyda’u lliwiau blaenaf o borffor a glas. Wrth ysgrifennu am ei waith ar gyfer yr eglwys, dadlennodd Jonah bod y ffenestri wedi’u gwneud o “inch-thick [2.5 cm] nugget-glass from St Just-sur-Loire in France, set in ciment fondu [sment castio gyda chynnwys uchel o alwmina]”.

Uchod: ffenestr dalle de verre 1.

Uchod: ffenestr dalle de verre 4.

Uchod: dau o’r goleuadau gwydr lliw.

Gwnaeth Jonah hefyd orsafoedd y groes wedi’u dorri ar wydr a chroes wedi’u enamlo ar gyfer Sant John Fisher.