

Ym 1965–66 gwnaeth Jonah Jones bedair ffenestr dalle de verre fawr ar gyfer Eglwys Merthyron Lloegr yn Hillmorton, Rugby (a ddangosir yma mewn trefn rifiadol). Un o dri phrosiect a gydweithredodd arno gydag E Bower Norris, o gwmni pensaer mawr ei barch Sandy a Norris, oedd hwn.

Mesurai pob ffenestr 3.6 m (12 troedfedd) o’r brig i’r gwaelod a 9 m (30 troedfedd) ar draws – y ffenestri dalle de verre mwyaf a wnaed gan Jonah erioed. Thema’r goron drain oedd sail y cynllun.

Yn anffodus dioddefodd rhai o’r ffenestri ddifrod, yn arbennig y sawl a oedd yn wynebu tua’r de, o achos ehangu gan wres a diffyg cefnogaeth i bwys sylweddol y paneli. Fel canlyniad dablygodd holltau mewn rhai o’r paneli a syrthiodd allan ychydig o’r dalles. Penderfynodd y plwyf yn erbyn trwsio’r ffenestri, ac yn hytrach tynnwyd nhw allan yn 2012. Storwyd y gwydr mewn dull gwael tu allan i’r eglwys ac o ganlyniad collwyd y ffenestri yn llwyr. Cliciwch yma i ddarllen ein herthygl yn 2014 am ddinistrio’r ffenestri.


Manylun o ffenestr 1.
Ffotograffau gan Stephen Brayne.
Ar gael fel print ffotograffig o’r Siop Jonah Jones (dolen).
