Gwydr: Neuadd Rainhill, Glannau Merswy

Oriel Jonah Jones logo

Ym 1965–66 creodd Jonah Jones gorff o waith ar gyfer y ganolfan encil Jesiwitaidd yn Loyola Hall, Rainhill ger Lerpwl. Y canolbwynt yn y capel oedd y ddwy ffenestr wydr lliw a enwyd “Diemwnt Anfarwol” yn ôl llinellau olaf cerdd Gerard Manley Hopkins ‘That Nature is a Heraclitean Fire and of the Comfort of the Resurrection’:

In a flash, at a trumpet crash

I am all at once what Christ is, since he was what I am, and

This Jack, joke, poor potsherd, patch, matchwood, immortal diamond

Is immortal diamond.

Yn uniongyrchol islaw’r ffenestri hyn yn Ystafell Blake ceir dwy ffenestr lai sy’n dangos y goron ddreiniog; wrth edrych arnynt o’r tu allan gyda’r golau ymlaen, mae’r ffenestri uchaf ac isaf yn ffurfio continwwm. Esboniodd Jonah, “Edrycha’r diemwnt anfarwol ymlaen at y ffordd euraidd ddiogel er gwaetha’r drain, trwy’r groes tua’r goleuni.” Caewyd y ganolfan encil yn 2014. Mae’r ffenestri’n dal i fod yn nodwedd falch yn y safle, sydd bellach yn westy a sba dan yr enw Rainhill Hall.

Ar ôl i Neuadd Loyola gau, symudwyd gweithiau eraill gan Jonah. Mae ei safleoedd y groes nawr yn Sant Beuno, Tremeirchion, ac ei croeslun pren wedi’i gerfio yn hongian yn Ysgol Gynradd Gatholig San Joseff, Hurst Green, Swydd Gaerhirfryn. Cliciwch yma i ddarllen ein herthygl yn 2018 am yr hyn a ddigwyddodd i’r gweithiau eraill Jonah ar ôl i Neuadd Loyola gau. Am erthyglai cynharach, defnyddiwch y tag ‘Neuadd Loyola’ ar y gwaelod.