Gwydr: Eglwys Sant Padrig, Casnewydd

Oriel Jonah Jones logo

Deilliodd gomisiwn Jonah Jones ar gyfer Eglwys Sant Padrig yng Nghasnewydd yn uniongyrchol o’i waith yng Ngoleg Ratcliffe, gan fod y ddau sefydliad o dan reolaeth Urdd y Rosminiaid. Gosododd ffenestr dalle de verre fawr ym mhen deheuol yr eglwys sy’n dangos y sant mewn urddwisg porffor archesgob. Mae rhan fawr o’r cefndir yn blaen, ond yn yr ymylon ceir tendriliau gwyrdd a saif Sant Padrig rhwng ffurfiau crymion coch neu mandorle. Eitha syml yw dyluniad y ffenestr, ond mae cryfder cadarn iddo. Agorwyd yr eglwys ar ôl ei hail-lunio ym 1963.

Roedd y ffenestr yn rhan o gyfres drawiadol o waith gan Jonah yn Eglwys Sant Padrig, gan gynnwys mosaig wal mawr a baldacchino, a phlac cysegru cain.

Cliciwch yma am adroddiad am ein hymweliad â Eglwys Sant Padrig yn 2016 i adolygu cyflwr y gwaith celf yn yr eglwys.