Gweithiwr Llechi

Uchod: Gweithiwr Llechi, carreg Portland, Amgueddfa Cymru, Caerdydd, 1964.

Uchod: Jonah a’i gynorthwy-ydd Gordon Jones ar gei harbwr Porthmadog yn cerfio’r ffigyrau ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. (Ffotograffydd anhysbys.)

Treuliodd Jonah rai misoedd yn 1964 yn gweithio ar ddau ffigwr mawr o Felangell, yn cynrychioli byd natur ac amaethyddiaeth, a gweithiwr llechi, yn cynrychioli diwydiant, ar gyfer adain orllewinol yr Amgueddfa Genedlaethol, yn cyflawni’r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr adeilad a luniwyd ym 1912. Y rhain oedd y ffigyrau mwyaf a gerfiodd erioed. Roedd y ddau floc o garreg yn pwyso 18.5 tunnell yr un. Roedd rhaid eu cludo ar y môr yn uniongyrchol o Ynys Portland i’r cei ym Mhorthmadog, lle cawsant eu codi i’r lan gan y craen a sefydlwyd ar gyfer dod â deunyddiau i mewn ar gyfer adeiladu gorsaf atomfa Trawsfynydd. Ni allai unrhyw adeilad yn lleol gymryd y monolithau enfawr, felly roedd rhaid i Jonah a’i gynorthwywyr weithio allan yn yr awyr agored, yno ar y cei.