
Heddiw, mae Scene & Word yn lansio ymgyrch genedlaethol, drwy erthygl yn y cylchgrawn Barn, i ddod o hyd i gartref newydd yng Nghymru i Y Bont – un o gerfluniau cyhoeddus pwysicaf Jonah Jones – cyn iddo gael ei golli i’n gwlad am byth.
Cliciwch yma am destun llawn fy erthygl.
Allwch chi helpu ni? Wyddoch chi am unrhyw ofod cyhoeddus mewnol a allai gynnig mur gwag i osod y cerflun o’r newydd? Byddai angen wal o tua 15 x 4 metr ar gyfer fersiwn sydd wedi’i leihau ychydig o’i gymharu â’r cynllun gwreiddiol llawn. Ond mae gennym hefyd gynllun parod ar gyfer fersiwn cwtogedig sy’n mesur dim ond tua 6.2 x 2.4 metr.
Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein llyfryn.
A chliciwch yma am yr erthygl yn Barn ar-lein. (Angen tanysgrifiad i’w ddarllen yn llawn.)
