
Ar 14 Medi, cysegrwyd ffigur Christus Rex yn ei gartref newydd yn Eglwys Sant Andrew, Kingsbury, Llundain. Bendithiwyd y groes gan yr Esgob Norman Banks, cyn Esgob Richborough.
Ar ôl y seremoni, siaradodd Peter Jones, cyfarwyddwr Scene & Word, yn fyr am hanes y groes a bywyd a gwaith Jonah. Bu William Jones, cyfarwyddwr arall S&W, yn bresennol hefyd.
Comisiynwyd y groes, a gerfiwyd mewn pren pinwydd gan Jonah ym 1979, yn wreiddiol gan rieni gwr ifanc a fu farw yn rhy gynnar, ar gyfer Eglwys Sant Seiriol yng Nghaergybi, Sir Fôn. Bu rhaid cau’r eglwys yn fuan wedyn oherwydd problemau strwythurol difrifol. Penderfynodd y rhieni, a oedd wedi ymfudo i Orllewin Cymru, symud y groes i Eglwys yr Holl Saint yn Llanelli (gweler ein stori gynharach yn 2010 am hyn). Caewyd yr eglwys yn 2011 a’i phrynu i’w hail-ddatblygu.. Prynwyd y groes yn 2020 gan Mary Raine, a’i rhoddodd i Eglwys Sant Andrew, ei heglwys leol. Cafodd y groes ei hadnewyddu a’i leoli uwchben y drws deheuol.
Mae Eglwys Sant Andrew yn esiampl Gradd II* o eglwys Fictoraidd gain. Yng nghanol Llundain oedd ei safle yn wreiddiol, lle y’i hagorwyd ym 1847. Ar ôl iddi gau, cafodd ei thynnu yn ddarnau a’i hail-adeiladu yn Kingsbury, gan ailagor ym 1934.
Dethlir 14 Medi yn yr Eglwys Anglicanaidd fel Gŵyl y Grog, a adnabyddir hefyd fel Gŵyl Dyrchafiad y Groes. Mae hyn yn coffáu darganfyddiad y Gwir Groes gan Santes Helena, mam yr Ymerawdr Cystennin, a chysegriad yr eglwysi a adeiladwyd ar safleoedd y Beddrod Sanctaidd a Bryn Calfaria yn Jerwsalem.
Mae Scene & Word yn ddiolchgar iawn i Mary Raine am achub y groes rhag dyfodol ansicr, i’r Tad Jason Rendell (Cymro o Gasnewydd) am gefnogi’n frwd gosod y groes yn ei eglwys, i’r Esgob Norman am fendithio’r groes, ac i swyddogion Esgobaeth Llundain am awdurdodi’r prosiect.

Peter Jones yn siarad yn y seremoni ailgysegru.

O’r chwith: Mary Raine, Peter Jones, Maggie Smales, Will Jones, yr Esgob Norman Banks.
