9 Ionawr 2022
Cyhoeddwyd llythyr gan Peter Jones, un o gyfarwyddwyr Scene & Word Cyf, yn rhifyn Gaeaf 2021 O’r Pedwar Gwynt fel ymateb i’r cyfweliad gan Shelagh Hourahane gyda Peter Lord, yr artist a hanesydd diwylliannol, a gyhoeddwyd yn rhifyn Gwanwyn 2021. Awgrymodd Lord yn y cyfweliad bod Jonah ymysg y sawl yn yr 80au a oedd yn gwrthod ei ddamcaniaethau am fodolaeth traddodiad celfyddydau gweledol yng Nghymru. Mae llythyr Peter Jones, sy’n codi’n helaeth o ddatganiad Scene & Word a gyhoeddwyd ar 31 Gorffennaf 2021 yma, yn rhoi’r cefndir a chyd-destun i fyfyrdodau Jonah am y celfyddydau gweledol yng Nghymru.