11 Tachwedd 2021
Rydym yn falch o gyhoeddi heddiw ein bod wedi ychwanegu dau gynnyrch i siop Scene & Word Cyf.
Oddeutu’r flwyddyn 1990, cododd Jonah lyfr braslunio bach i baentio ynddo gwyddor ryfeddol mewn dyfrlliw, un llythyren ar bob tudalen. Nes ymlaen yn ei fywyd gadawodd e i’w wyrion ei fwynhau. Pan ddaethom ar ei draws, sylweddasom mai dyma rywbeth unigryw. Penderfynwyd i ddigideiddio’r holl lythrennau er mwyn creu posteri o’r wyddor gyflawn yn Gymraeg a Saesneg. Ar wynebddalen y llyfr braslunio ‘roedd Jonah wedi paentio’r teitl Alphabetum Romanum Jonah – cafodd hwn ei ddigideiddio hefyd er mwyn ei ddefnyddio fel teitl y ddwy wyddor.
Cyflwynir y gwyddorion fel posteri A3, mewn mowntiau yn barod i’w fframio.
Gostwng prisiau’n sylweddol
Rydym hefyd yn cyhoeddi gostyngiadau sylweddol mewn prisiau sawl cynnyrch yn ein siop. Mae’r holl brisiau newydd yn y DU a ganlyn yn cynnwys costau cludiant. Mae’r gostyngiadau hefyd yn ddilys mewn marchnadoedd tramor, er eu bod yn adlewyrchu costau uwch cludiant i wledydd eraill.
Yn ein hystod o brintiau archifol cain mewn argraffiad cyfyngedig:
- gostyngwyd pris y nifer bach o brintiau mewn mowntiau o Gwrogaeth i Marianne North a Tri Dyn ar Fryn yn y Gaeaf (ill ddau wedi’u paentio gan Jonah ym 1982) o £145 i £110
- a gostyngwyd pris printiau heb fownt o Gwrogaeth i Marianne North o £110 i £90
Yn ein hystod o gyhoeddiadau:
- gostyngwyd pris y nifer bach o gopiau ar ôl o’r cyhoeddiad clawr caled gwreiddiol o The Gregynog Journals mewn argraffiad cyfyngedig o £50.75 i £24.50
- gostyngwyd yr argraffiad cyfyngedig diweddarach clawr meddal o The Gregynog Journals o £24.75 i £14.50
- gostyngwyd The Lakes of North Wales, teyrnged Jonah i dirlun ei fro, o £8.40 i ddim ond £4.25, gyda’r rhan fwyaf o’r pris newydd yn cyflenwi cost cludiant. Cawsom afael ar y stoc sydd ar ôl o Y Lolfa, a gyhoeddodd y trydydd argraffiad (yr un olaf), ac fe fuasai’n llawer gwell gennym weld y llyfrau ar silffoedd cerddwyr yn hytrach na mewn blychau yn ein storfa
- ac yn olaf, rydym wedi gostwng pris catalog gwych Plas Glyn-y-Weddw i’w arddangosfa ganmwlyddol yn 2019 o £7 i £5