Scene & Word yn lansio cyfres newydd o ffotoprintiau o weithiau coll

23 Tachwedd 2020

Rydym wedi ychwanegu cyfres newydd o gynnyrch ffotoprintiau i siop arlein Scene & Word. Mae’r rhain yn wahanol yn dechnegol i’r gyfres gyntaf o brintiau cain, gan eu bod wedi’u printio ar bapur ffoto 200 GSM Universal yn hytrach na phrint Giclee ar bapur cotwm ansawdd archif. Maent yn seiliedig ar luniau o gelfweithiau nad ydynt yn bodoli bellach – cawsant eu chwalu gan, neu ar ran, eu perchnogion. Mewn rhyw ystyr cânt eu hadfywio trwy gyfrwng ffotograffiaeth greadigol.

Buom yn gweithio gyda’r talent gyffrous Leah Rolando, ffotgraffydd ifanc o Dde Affrica (www.leahrolando.com), ar y printiau newydd yma. Sail y cyntaf, gyda’r teitl Coron Ddrain (Crown of Thorns), yw’r pedair ffenestr dalle de verre fawr a grewyd gan Jonah yn y 1960au canol ar gyfer cromen Eglwys Gatholig newydd Merthyron Lloegr (English Martyrs) yn Hillmorton, Rugby, Swydd Warwick. Symudwyd y ffenestri yn 2012 am resymau diogelwch ond cawsant eu storio’n wael iawn, a achosodd eu dinistr llwyr. Dengys y print pob un o’r pedair ffenestr, gan ddefnyddio’r lluniau gwreiddiol a dynnwyd gan Stephen Brayne yn 2009 pan oedd y ffenestri yn gyflawn. Mae’n manteisio ar eu gwedd drionglog arbennig i greu effaith drawiadol megis coeden Nadolig (nid yw’r ddelwedd gryno isod yn gwneud cyfiawnder â hi).

Cyfres o bum print wedi’u seilio ar yr un delwedd yw’r ail nwydd. Mae’n dangos manylyn llun agos estynedig o furlun Hedd Dros Wynedd, gwaith a greodd Jonah ym 1972 o lechen a marmor Carrara ar gyfer pencadlys Heddlu Gogledd Cymru ym Mae Colwyn. Yn 2002 tynnodd adeiladwyr y murlun enfawr oddi ar y wal gan daflu’r darnau i ffwrdd wrth adnewyddu’r adeilad, heb ymgynghori â neb. Datblygodd Leah Rolando gyfres o driniaethau ffotograffig o’r llun gwreiddiol a dynnwyd gan Robert Greetham pan oedd y gwaith yn gyflawn, gan ddefnyddio lliw craff a golygu deinamig er mwyn cyfleu’r profiad o wylio’r murlun o ongl agos.