Ail-godi arysgrifen Jonah Jones yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin

23 Mai 2019

Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin ym Mhrifysgol Abertawe wedi profi nifer o newidiadau mawr dros y blynyddoedd diweddar, a oedd yn cynnwys gwaith adeiladu sylweddol ar a llawr isaf. Tra roedd y gwaith yn mynd ymlaen, cafodd y plac dadorchuddio chweochrog gan Jonah Jones ei roi mewn storfa. Roedd y plac mawr yma, a luniwyd a’i dorri gan Jonah ym 1984, wrth y mynediad cefn i’r ganolfan ar y llawr isaf gynt.

Setlodd popeth i lawr o’r diwedd. Ond nid oedd dim golwg o’r plac. Ysgrifennodd Scene & Word Cyf at Sybil Crouch, Pennaeth Gwasanaethau Diwylliannol yng Nghanolfan Taliesin. Cyn iddi ymddeol ar ben gyrfa disglair, ymrwymodd Sybil i ddarganfod bwriad y brifysgol ar gyfer y plac.

Diolch byth, daeth y plac i olau dydd mewn safle newydd wrth mynediad y swyddfa tocynnau ar brif lawr y ganolfan. Mae e mewn cyflwr gwych gyda goleuo gwell a safle mwy amlwg na’r hen leoliad ar y llawr isaf.

Ychydig yn ddiweddarach, daeth lythyr oddiwrth Steve Williams, Pennaeth Llyfrgelloedd, Diwylliant a Chelfyddydau’r brifysgol, yn cadarnhau bod y plac wedi cael ei ail-godi yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin mewn safle da, ond un sy’n dal yn warchodedig.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Sybil a Steve am eu hymdrechion llwyddiannus i sicrhau dyfodol hir dymor i un o’r ychydig o ddarnau o waith cyhoeddus gan Jonah yn ail ddinas Cymru.

Plac gan Jonah Jones yn Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe