Bydd Scene & Word yn cyhoeddi argraffiad clawr meddal o The Gregynog Journals.
Cafodd y llyfr ei gyhoeddi yn gyntaf mewn ffurf clawr caled yn 2010, mewn argraffiad cyfyngedig o 350. Argraffwyd y fersiwn hwn mewn lliw cyflawn ar bapur di-asid, wedi’i wneud mewn mowld, a gwewyd blociau’r llyfr a’u clymu trwy law yn unigol wrth i bob archeb ddod i mewn.
Gyda rhywfaint o flociau’r llyfr heb eu clymu, heb eu gwerthu ac mewn stoc, penderfynodd bwrdd cyfarwyddwyr y cwmni i’w rhoi mewn ffurf clawr meddal a’u cynnig am bris llawer is na’r fersiwn gwreiddiol.
Bydd yr argraffiad clawr meddal ar gael am £20 a bydd yn cael ei lansio ar achlysur agor arddangosfa ganmlwyddol Jonah Jones yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw ar 26 Ionawr 2019.

