Arddangosfa Canmlwyddol Jonah Jones: datganiad i’r wasg Oriel Plas Glyn-y-Weddw

Oriel Plas Glyn-y-Weddw press release images

Datganiad i’r Wasg, 16.01.2019

Dathliad Canmlwyddol o waith Jonah Jones yn rhan o dymor newydd arddangosfeydd ym Mhlas Glyn-y-Weddw

Bydd arddangosfa arbennig iawn sy’n talu gwrogaeth i’r artist, addysgwr, awdur a’r heddychwr Jonah Jones yn ganolbwynt lansiad arddangosfeydd 2019 Plas Glyn-y-Weddw gynhelir ar benwythnos 26/27 Ionawr.

Ochr yn ochr â’r dathliad canmlwyddol bydd Cyswllt yn arddangosfa gan ddetholiad o artistiaid sydd a’u gwaith yn ymblethu gyda bywyd a gwaith Jonah mewn rhyw fodd.

Bydd yr arddangosgfeydd ar lawr cyntaf yr oriel yn canolbwyntio ar wrogaeth i Ben Llŷn. Bydd brawd a chwaer o Lanbedrog yn wreiddiol, Owain a Lea Sautin, yn cyd-ddangos gyda’i gilydd am y tro cyntaf yn Sautin + Sautin tra bydd Mapio Llŷn yn arddangosfa unigol gyntaf i Ruth Gibson, artist o Amwythig.

Yn ddyn rhyfeddol daeth Jonah Jones (1919–2004) yn adnabyddus mewn sawl maes. Wedi’i eni a’i fagu yng ngogledd ddwyrain Lloegr roedd ganddo wreiddiau Cymreig a dewisodd ymgartrefu yng Nghymru ar ddiwedd yr 1940au. Daeth i Lanystumdwy i weithio yng Ngwasg Caseg gyda’r artist John Petts cyn mynd i weithdy’r diweddar Eric Gill i ddysgu’r dechneg o lythrennu ar garreg. Sefydlodd stiwdio yn Eifionydd a dechreuodd wneud bywoliaeth o’i waith celf.

Roedd hefyd yn awdur ac yn y cyfnod yma cyhoeddodd ddwy nofel, cyfres o ysgrifau, bywgraffiad o’i gyfaill Clough William-Ellis, a llyfr ar lynnoedd gogledd Cymru. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn addysg celf yn ogystal, bu’n asesydd allanol i lawer o brif golegau celf Lloegr cyn treulio pedair blynedd (1974–78) yn Gyfarwyddwr Coleg Cenedlaethol Celf a Dylunio Iwerddon yn Nulyn.

Bydd engrhaifft wych o’i waith gwydr lliw yn yr arddangosfa mewn dwy banel ffenestr o Eglwys Gatholig Morfa Nefyn sydd bellach wedi ei chau. Hefyd bydd nifer fawr o ddarnau cerfluniol, paentiadau dyfrlliw a chasgliad helaeth o’i ddarnau caligraffi hardd ar bapur. Mae llawer o’i ddarnau caligraffi yn cyfuno barddoniaeth a delweddau ac wedi’i creu ym mhymtheg mlynedd ola ei fywyd ar ôl symud i fyw i Gaerdydd, ei iechyd ddim yn ddigon da mwyach iddo greu gwaith cerfluniol.

Pleser ac anrhydedd fu cyd-weithio gyda teulu Jonah Jones, David Townsend Jones, Pedr Jones a Naomi Trodden, a sef ei ddau fab a’i ferch, i ddod a’r arddangosfa at ei gilydd. Llwyddwyd i fenthyca darnau o bob cwr o Gymru a Lloegr ac mae eu harddangos yma yn cynnig cyfle unigryw i’r cyhoedd fwynhau a gwerthfawrogi casgliad gwych o’i waith dan yr un to. Bydd cyhoeddiad arbennig yn cael ei lansio sy’n ganllaw i’r arddangosfa ac hefyd yn olrhain ei fywyd trwy ei waith celf. Bydd fersiwn nifer-cyfyngedig clawr meddal o’i lyfr The Gregynog Journals, yn olrhain ei gyfnod ar breswyliad yn Ngregynog, ar werth yn yr arddangosfa, yn ogystal a phrintiadau.

Mae Cyswllt yn ddetholiad o artistiaid yn gweithio mewn sawl cyfrwng. Roedd rhai yn gyfeillion megis, Claire Langdown a David Nash, tra bu Meic Watts yn rhannu stiwdio gyda Jonah am rai blynyddoedd, yn cael ysbrydoliaeth ganddo ac yntau yn dechrau ar yrfa fel cerflunydd yn gweithio gyda charreg. Cerflunydd ifanc arall werthfawrogodd ei gefnogaeth oedd Howard Bowcott a bu’r tri, Jonah, Meic a Howard, yn dangos gyda’i gilydd fel y ‘Moelwyn Group’.

Caiff y cyfryngau eraill oedd Jonah yn gweithio ynddynt eu cynrychioli gan waith gwydr, llythrennu a dyfrlliw tra telir gwrogaeth i’w lyfr ar Lynnoedd Gogledd Cymru yng ngwaith Aled Prichard-Jones a Vivienne Rickman Poole. Mae’r artist aml-gyfrwng Richard Higlett wedi dethol ymateb yn uniogyrchol i rai o weithiau Jonah tra daw gwaith Simon Callery o’i gyfnod diweddar ar Ysgoloriaeth yn yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain lle buodd Jonah yn aelod Bwrdd.

Er bod Owain a Lea Sautin wedi ymgartrefu yn Nghaerdydd erbyn hyn mae gwaith y ddau wedi’i wreiddio yn ddwfn yn nhir Llŷn. Daw ysbrydoliaeth Owain o’r tirlun a’r golygfeydd, yn arbennig y traethau a’r cilfachau hudol sydd ar y penrhyn. Wedi’u cofnodi gyda chamera bydd yn ymdrin â’r delweddau trwy ddefnddio gwahanol raglenni cyfrifiadurol sy’n rhoi ryw ledrith arbennig iddynt, tra yn parhau i fod yn adnabyddadwy, maent yn tynnu’r gwyliwr tuag atynt i ddyfalu a rhyfeddu ar olygfeydd cyfarwydd. Mae lledrith yn rhan o waith Lea hefyd drwy ganolbwyntio ar straeon tylwyth teg a chwedlau lleol. Yn wneuthurwr printiadau, mae Lea wedi mabwysiadu ffordd unigryw o greu delweddau trawiadol trwy broses ddyfal o luniadu a’r bapur cyn ei dorri a’i siapio i greu cymeriadau a golygfeydd i’w cofnodi mewn print.

Tirlun Llŷn sydd hefyd wedi mynd a bryd Ruth Gibson yn ei harddangosfa Mapio Llŷn. Mae hi’n cyfuno diddordeb mewn ffotograffiaeth a serameg i greu darnau hardd unigryw gan ddefnyddio proses sgrîn-brintio i drosglwyddo delweddau tirluniol ar y clai cyn ei siapio, ei wydro a’i danio. Mae gweithio fel hyn yn ei galluogi i gyd-blethu ffoto-realaeth gyda marciau mwy haniaethol i adeiladu haenau o ddelwedau. Gellir tynnu cymhariaeth yn y ffordd mae Lea a Ruth yn gweithio – y ddwy yn adeiladu eu darnau gorffenedig trwy gyfuno delweddau a chrefftwaith cywrain, rhywbeth oedd yn amlwg yng ngwaith Jonah hefyd.

Mae’r arddangosfeydd ymlaen hyd Fawrth 17eg gyda digwyddiadau arbennig i nodi’r agoriadau ar Ionawr 26ain, pan fydd agoriad Jonah Jones a Cyswllt, a’r 27ain i agoriad Sautin + Sautin a Mapio Llŷn. Mae rhaglen weithgareddau drwy gyfnod yr arddangosfeydd yn cynnwys gweithdai trawo-mewn i deuluoedd yn ystod gwyliau Hanner Tymor, gweithdai caligraffi i oedolion a thrip i Bortmeirion (sydd yn noddi Catalog Arddangosfa Jonah Jones). Gwelwch yr holl fanylion ar ein gwefan: www.oriel.org.uk

Am fwy o fanylion neu i drefnu cyfweliad gyda teulu Jonah Jones neu yr artistiaid, cysylltwch a Plas Glyn y Weddw ar 01758 740 763.