Print digidol: COPA TRYFAN DAN EIRA

£49.00

Print digidol o fraslun dyfrlliw canol-cyfnod o Tryfan ym mynyddoedd Eryri gan Jonah Jones.

5 mewn stoc

Disgrifiad

Jonah Jones – dyfrlliw, 1963

Ychydig o ddyfrlliwiau a gynhyrchwyd gan Jonah Jones yn y 1950au hwyr a’r 1960au, er ei fod yn braslunio’n achlysurol, fel pan ymwelodd â Rhufain yn 1959 a Fflorens yn 1961. Ac weithiau byddai’n tynnu lluniau wrth gerdded mynyddoedd Eryri. Yn bwerus ac egnïol, mae Copa Tryfan Dan Eira yn enghraifft o baentio tirlun Jonah ar ei orau.

A3 (29.70 cms x 42.00 cms) heb ei fowntio, print Giclée ar bapur 100% cotwm o ansawdd archifol gan ddefnyddio inc Epson UltraChrome go iawn.

Mae’r pris yn cynnwys TAW a chludiant yn y DU.