Print digidol (argraffiad cyfyngedig): LLYN CASEG FRAITH A THRYFAN / LLYN CAU A CHADER IDRIS

£74.00

Print digidol (argraffiad cyfyngedig) o dau lyn yng Ngwynedd, o ddyfrlliw gan Jonah Jones.

5 in stock

Description

Jonah Jones – dyfrlliw a phensil, 2001

Bu llynnoedd Gwynedd yn ffynhonnell ddwys o ddeunydd i waith a lles Jonah Jones, oherwydd crwydrodd y bryniau gyda’i gorfilgi hyd henaint. Ni chafodd unlle yn fwy gwerth chweil na’r ddau lyn a ddarlunnir yn Llyn Caseg Fraith a Thryfan / Llyn Cau a Chader Idris. Peintiodd y ddau yn aml ac weithiau eu cyfuno, fel y gwnaeth yma. Pwll ar y llwyfandir rhwng Glyder Fach a Foel Goch yw Llyn Caseg Fraith, gyda chopa Tryfan yn codi’n drawiadol y tu ôl iddo. Wrth beintio Llyn Cau a Chader Idris yn 2001, roedd Jonah yn ymuno â chwmni o fri: roedd Richard Wilson yn enwog am baentio’r un olygfa, a gwnaeth J.M.W. Turner olygfa ychydig o dan y cwm. Daw’r testun yng ngwaith Jonah o’i lyfr The Lakes of North Wales.

A2 (42.00 cm x 59.40 cm) heb ei fowntio, print Giclée ar bapur 100% cotwm o ansawdd archifol gan ddefnyddio inc Epson UltraChrome go iawn ac wedi’i rifo’n unigol o set argraffiad cyfyngedig o 100.

Mae’r pris yn cynnwys TAW a chludiant yn y DU.