
Cliciwch neu tapiwch unrhyw un o’r lluniau ar gyfer naw ‘stafell’ yr adran Gwydr.
Creodd Jonah Jones ei holl waith gwydr mewn cyfnod byr o lai na 10 mlynedd dros y 1960au. Yr unig reswm iddo droi ei law i’r crefft arbennigol hwn oedd ei fod wedi cael comisiwn am yr holl gelfwaith yng nghapel newydd Coleg Ratcliffe, gan gynnwys gwydr lliw a dalle de verre. Fel arfer gwelodd hwn fel sialens: “If the work is there, you must have a go,” dywedodd yn gwta. Treuliodd rhywfaint o amser gyda Keith New, a oedd wedi gwneud nifer o’r ffenestri yn Eglwys Gadeiriol Coventry, a wedyn cafodd afael ar odyn arbennig i danio gwydr lliw.
Amcangyfrifodd Jonah bod y broses o greu ffenestr liw yn cymryd 14 cam gwahanol. Dychmygodd ei gynlluniau fel “a kind of mosaic”. Gan ddechrau gyda braslun sylfaenol, roedd e’n gweithio “directly to the real thing” – yn wahanol i lawer o artistiaid eraill, sy’n gwneuthur o gartwnau manwl. Mentrodd hefyd i faes dalle de verre (slabiau o wydr lliw wedi’u gosod mewn matrics o goncrid, neu nes ymlaen technoleg newydd resin epocsi). Roedd yr holl wydr a wnaeth ar gyfer Eglwys Sant Padrig, Casnewydd, yn dalle de verre.
Cafodd ffydd Gatholig Jonah ar y pryd ddylanwad dwfn ar ei waith gwydr. Ar gyfer Coleg Ampleforth gwnaeth ddwy set o ffenestri, un gwydr lliw a’r llall dalle de verre, ar gyfer y capeli terfynol bychain.
Fe’i wnaethpwyd bron i gyd ar gyfer eglwysi Catholig o gwmpas Cymru a Gogledd a Chanolbarth Lloegr. Roedd yn cynnwys ffenestri dalle de verre ar gyfer eglwys newydd Sant John Fisher yn West Heath, de Birmingham.
Deilliodd rai o’i ddelweddau mwyaf lachar a phrydferth o waith gwydr Jonah, sy’n haeddu mwy o gydnabyddiaeth ymysg ei waith. Roedd y pedair ffenestr dalle de verre anferth a wnaeth ar gyfer brig Eglwys newydd y Merthyron Seisnig yn Hillmorton, ar gyrion Rygbi (sydd bellach wedi’u dinistrio’n anffodus), yn ysblennydd.
Ym 1965–66 creodd Jonah gorff o waith ar gyfer Loyola Hall, canolfan encilio’r Jeswitiaid yn Rainhill, ychydig i’r dwyrain o Lerpwl, gan gynnwys dwy ffenestr liw ‘Immortal Diamond’ â delwedd ddrych. Mae’r ffenestri’n dal i fod yn nodwedd falch yn beth sydd nawr y westy a sba Rainhill Hall.
Tua 1967–68 gwnaeth Jonah set o 12 ffenestr dalle de verre haniaethol i sefyll bron o’r llawr i’r nenfwd o amgylch eglwys newydd ym Morfa Nefyn ym Mhen Llŷn. Caewyd yr eglwys yn 2016 ac ers hynny mae wedi cael ei dymchwel. Cafodd y ffenestri eu hadfer a’u hadleoli yn 2023 i Eglwys Dewi Sant, Yr Wyddgrug.
Gwnaeth hefyd ffenestr liw ar gyfer capel Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn dangos Florence Nightingale…

… a ffenestr dalle de verre fawr o Fedydd Crist ar gyfer Eglwys Sant Joseff, Dinbych.
Ffotograffiau: Stephen Brayne (Coleg Ratcliffe – cyfansawdd o 2 ffotograff, Coleg Ampleforth, West Heath – cyfansawdd o 4 ffotograff, Rygbi, Neuadd Rainhill, Yr Wyddgrug – cyfansawdd o 4 ffotograff, Llandudno; Dinbych); Robert Greetham (Casnewydd).








