
Cliciwch neu tapiwch unrhyw llun isod i weld yr arddangosfa.



Dysgwyd Jonah sut i gerfio mewn pren gan Peter Thorp, ffrind hŷn a’i helpodd i ddechrau ar ei yrfa fel cerflunydd. Roedd ei drydydd comisiwn yn arysgrif ar dderw yn eglwys Llangybi ym mhen Llŷn i goffáu tad Syr Clough Williams-Ellis, a fu’n ganon yno. Gwnaeth Jonah sawl comisiwn arall mewn pren ar gyfer eglwysi, a hefyd ambell gerflun dethol yn y deunydd, sy’n wahanol iawn i faen i drin.
