
Plac yng Nghilfach Kate Roberts yn ei safle gwreiddiol ger Rhosgadfan, llechen, 1986. Ail-leolwyd yn ddiweddarach. Ffotograff: Robert Greetham.
Yn nechrau’r 1980au, cydweithiodd y Gymdeithas Gelf Gogledd Cymru gyda’r Comisiwn Gwasanaethau Llafur (Manpower Services Commission) ar gynllun ar gyfer chwech ifanc i’w cyflogi i adnewyddu dymp cyngor ger Rhosgadfan yng gwlad llechen Arfon. Nododd Jonah yn ei ddyddlyfr fod y lleoliad yn “berwi gyda chymeriad. Mae ganddo’r peth Celtaidd hynafol yna o fod o fewn golwg y môr ond eto’n gyfrinachol a chudd, fyny ar uchder y byddai dieithriaid yn wyliadwrus o’i ddynesu.” Adeliadwyd cilfach fawr, ac arno gosododd Jonah’r plac yn coffau’r awdur Kate Roberts (1891–1985), brodor o’r gymuned leol. Flynyddoedd yn ddiweddarach, rhaid oedd i’r cyngor ddisodli’r garreg wedi iddo gael ei fandaleiddio. Mae bellach wedi’i storio gyda’r bwriad o’i ail-osod mewn man mwy diogel. (Cyfieithiad: Awen Schiavone.)
