29 Tachwedd 2022
Mae Scene & Word yn falch dros ben i gyhoeddi cwblhad llwyddiannus prosiect cadwraeth celf gyhoeddus sylweddol dros gyfnod o chwe blynedd. Gosodwyd yr olaf o 12 ffenestr adferedig a greuwyd mewn dalle de verre gan Jonah Jones yn Eglwys Dewi Sant, yr Wyddgrug.
Roedd y set olaf o ffenestri yn cynnwys un y bu’n rhaid ei hail-adeiladu’n llwyr ar ôl ei chwalu oherwydd dirywiad tra yn ei chartref gwreiddiol mewn eglwys sydd bellach wedi’i dymchwel ym Morfa Nefyn, Gwynedd. Cymerwyd rhwbiad o’r ffenestr cyn ceisio’i symud o’r hen eglwys, felly oedd modd ei hadfer yn union yn ôl patrwm y gwreiddiol.
Cyflawnwyd y gwaith adfer dan gontract i Scene & Word gan y technegwyr gwydr Owen Luetchford a Stacey Poultney o’r Ganolfan Gwydr Pensaernïol (CGP) yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant). Lle bynnag roedd modd, cymerwyd rhan yn y prosiect gan fyfyrwyr y GGP.
O dan gyfarwyddid rheolwr y prosiect Mike Bunting, gosodwyd y ffenestri yn Eglwys Dewi Sant mewn cyfuniad o fframiau dur gwrthstaen, gwneuthurwyr Dee Tech Services o Benarlâg, a blychau golau a gomisiynwyd yn arbennig. Mae S&W wedi talu teyrnged i “benderfyniad diwyro Mike Bunting i sicrhau cwblhad y prosiect yr holl ffordd o’r syniad gwreiddiol i gyflawni’r realiti gorffenedig – gwaith rheoli prosiect ar ei orau.”
Yn eu cartref newydd, mae ffenestri Jonah Jones bellach ochr yn ochr â set wych o ffenestri dalle de verre gan Dom Charles Norris, mynach o Buckfast Abbey.
Mae’r Esgob Peter o Wrecsam yn bwriadu cynnal gwasanaeth ail-gysegru cyhoeddus tua gwanwyn neu haf 2023.
Ffotos gan Mike Bunting